Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 27 Chwefror 2017 |
|
||||
Amser: |
12.30 - 13.50 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: AC(5)2017(2) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Caroline Jones AC Adam Price AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Non Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Gwion Evans, Head of Presiding Officer's Private Office Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
Helena Feltham, Cynghorwr Annibynnol
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AC.
Croesawyd Helena Feltham, Cynghorwr Annibynnol, i'r cyfarfod.
1.2 Datgan buddiannau
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.3 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Ionawr.
2 Y strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd
Trafododd y Comisiynwyr bapur a oedd yn amlinellu strategaeth i gyflawni nod strategol Comisiwn y Cynulliad ym maes ymgysylltu â’r cyhoedd ar gyfer y Pumed Cynulliad, sef ‘ymgysylltu â holl bobl Cymru a hyrwyddo’r Cynulliad’. Yn benodol, roedd yn cynnig fframweithiau ar gyfer diffinio cynulleidfaoedd a gweithgareddau ac ar gyfer gwerthuso'r gwaith.
Trafododd y Comisiynwyr y lefelau ymgysylltu presennol, gan roi eu cefnogaeth i'r ymgyrch i ddod yn fwy effeithiol. Myfyriwyd ar y ddibyniaeth enfawr ar ymgysylltiad digidol, a mynegwyd pryder bod rhai cynulleidfaoedd nad ydynt yn cael eu cynnwys o bosibl. Roeddent yn awyddus y dylid parhau i roi pwyslais sylweddol ar ryngweithio wyneb yn wyneb, yn ogystal â thargedu deunyddiau i ddenu sylw'r 'gynulleidfa gyfan' waeth beth yw lefelau eu gwybodaeth.
Trafodwyd Senedd.tv, a chydnabu'r Comisiynwyr bwysigrwydd y cyngor a'r argymhellion a fyddai'n dod oddi wrth y Tasglu Digidol yn ddiweddarach yn y gwanwyn.
Cafodd y Comisiynwyr drafodaethau eang am ffyrdd o fynd i'r afael â'r diffyg democrataidd yng Nghymru, gan gynnwys ffyrdd a gynigir gan newidiadau ym maes technoleg a chyfleoedd i weithio gyda sefydliadau eraill. Dywedodd y Llywydd hefyd fod mwy o ymdrech yn cael ei gwneud i sefydlu perthynas â sefydliadau a chyrff academaidd, fel y Gymdeithas Ddysgedig.
Cadarnhaodd y Comisiynwyr eu bod yn cefnogi'r strategaeth ymgysylltu ddrafft a bod y cynllun gwaith yn adlewyrchu eu blaenoriaethau ar gyfer ymgysylltu.
3 FySenedd
Rhoddwyd gwybodaeth i'r Comisiynwyr am y rhaglen FySenedd, a sefydlwyd i sbarduno a chyflawni elfennau pwysig o strategaeth y Comisiwn.
Trafododd y Comisiynwyr nod cyffredinol y rhaglen a sut mae'n datblygu. Trafodwyd yr angen sylfaenol i ddata gael eu rheoli mewn modd sy'n golygu eu bod yn ddefnyddiol. Roeddent hefyd yn cydnabod bod angen newid diwylliant yn ogystal â newid technolegol er mwyn darparu gwasanaethau busnes y Cynulliad sydd mewn gwell sefyllfa i gefnogi'r Cynulliad i fod yn senedd agored, ddigidol o'r radd flaenaf.
Roedd y Comisiynwyr yn cefnogi amcanion y rhaglen a'r dull a fabwysiadwyd er mwyn ei rhoi ar waith. Roeddent yn cydnabod y bydd rhaglen FySenedd yn gyfrwng allweddol i helpu i wneud y newid sylweddol sydd ei angen i gyflawni amcanion y Comisiwn o ran ymgysylltu â’r cyhoedd, ac argymhellion y Tasglu Newyddion a Gwybodaeth Ddigidol.
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a gynhaliwyd ar 6 Chwefror
Cynhaliwyd cyfarfod o Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad ar 6 Chwefror. Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiynwyr.
Roedd y manylion yn cynnwys bodlonrwydd y Pwyllgor â'r gwaith proffesiynol sy'n cael ei wneud ym maes Archwilio Mewnol; seiberddiogelwch a'r gwaith sy'n cael ei wneud i gryfhau'r hwn; y system gyllid newydd; ac archwiliad trylwyr o faterion yn ymwneud ag adeiladau a swyddfeydd. Roedd aelodau'r Pwyllgor hefyd wedi cymryd rhan mewn sesiwn arbennig gyda Roger Scully, gan ystyried materion yn ymwneud â gadael yr UE, Deddf Cymru a gallu'r Cynulliad i ymdopi â'i lwyth gwaith.
5 Unrhyw fater arall
Rhoddodd y Llywydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiynwyr am waith yn ymwneud â Senedd Ieuenctid a'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol.
5.1 Y wybodaeth ddiweddaraf am y Senedd Ieuenctid
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf grŵp llywio'r Senedd Ieuenctid ddydd Llun 13 Chwefror.
Y camau nesaf fydd ystyried sut y dylai'r Senedd Ieuenctid weithio gyda'r Cynulliad - o ran ei pherthynas ag Aelodau a phwyllgorau, ac o ran trefniadau llywodraethu.
Y bwriad yw gallu ymgynghori ar fodel o gyfansoddiad drafft ar gyfer Senedd Ieuenctid ar ôl toriad y Pasg.
5.2 Aelodaeth o'r Bwrdd Pensiynau
Cadarnhaodd y Llywydd y newid o ran yr aelod o'r Bwrdd Pensiynau a enwebwyd gan y Comisiwn, o Suzy Davies i Joyce Watson. Roedd y Comisiynwyr eisoes yn ymwybodol o'r newid, a rhoddwyd cadarnhad fod y llythyr ffurfiol wedi'i anfon at y Bwrdd Taliadau ar 16 Chwefror.